Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £7 miliwn mewn gwaith ymchwil meddygol newydd ar y cyd rhwng prifysgolion Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd.

Bydd yr arian yn mynd at ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer clefydau fel canser ac anhwylderau meddwl dros y tair blynedd nesaf.

Fe wnaeth y cyhoeddiad yr un diwrnod ag y mae Cyngor Ymchwil Meddygol Prydain yn cyfarfod yng Nghaerdydd.

Yn ôl y Prif Weinidog, mae’r buddsoddiad gan Ganolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gyfle i ddatblygu diagnosis a thriniaethau gwell, tra hefyd yn datblygu arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgolion Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y buddsoddiad yn gyfle i “sicrhau lle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol fel gwlad sy’n arwain y gad mewn ymchwil a datblygiad.”

Arloesi

Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Tony Jewell, mae’r buddsoddiad yn gyfle i Gymru arloesi wrth ddatblygu triniaethau a diagnosis, fydd o fantais i gleifion yng Nghymru ac yng ngweddill y byd.

“Bydd y buddsoddiadau yn gwneud cyfraniad enfawr i’n dealltwriaeth ni o amryw o glefydau cyffredin,” meddai.

Bydd y £7 miliwn o fuddsoddiad yn cael ei ddosbarthu rhwng pedair prif adran, dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd y rhain yn cynnwys:

–       £3 miliwn i’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a’r Ganolfan Ymchwil Biofeddygol yng Nghaerdydd;

–       £1.28 miliwn ar gyfer uned dadansoddi delweddau meddygol ym Mangor;

–       £1.465 miliwn ar gyfer ymchwil i gyflymu diagnosis o glefyd thromboembolaidd – y trydydd clefyd cardiofasgiwlar mwyaf cyffredin ym Mhrydain. Bydd yr ymchwil yma yn cael ei redeg o Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe.

–       £1.489 miliwn i waith ymchwil i eneteg canser, gan gysylltu’r adeilad Geneteg Canser newydd yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd gyda grwpiau proffesiynol sy’n gweithio i atal, gwneud diagnosis a thrin canser.