Elin Jones
Mae rheolwr Radio Ceredigion wedi gwadu honiadau gan yr Aelod Cynulliad Elin Jones bod yr orsaf radio lleol yn ei boicotio.

Mewn neges ar ei blog ddoe, roedd y cyn-weinidog cefn gwlad yn dweud bod un o’i hetholwyr, pan gafodd ei gyfweld ar yr orsaf radio, wedi cael rhybudd i beidio ag yngan ei henw ar yr awyr.

Roedd hyn, meddai, yn ymgais i ddial arni am wrthwynebu cais a wnaeth perchnogion yr orsaf, Town and Country Broadcasting Cyf, i’r rheoleiddiwr Ofcom am gael darlledu llai o Gymraeg.

Ond mae Martin Mumford, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, yn gwadu ei honiadau’n llwyr.

“Dydyn ni ddim yn gweithredu system ‘blacklist’ ar unrhyw un o’n gorsafoedd radio,” meddai wrth Golwg360.

“Rydyn ni’n mwynhau perthynas dda gyda llawer o Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad, ac rydym wedi gwneud cynnig i Elin siarad gyda ni amryw o weithiau.

“Rydym yn gwrthod yn llwyr unrhyw awgrymo sensoriaeth.”