Y Prif Weinidog, David Cameron
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron wneud cyhoeddiad ynghylch y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu heddiw.
Wrth annerch Aelodau Cynulliad yn y Senedd yng Nghaerdydd, mae’n debyg o amlinellu manylion pellach am gomisiwn yn ymwneud â chyllid a fydd yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Prydain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am hawliau i fenthyca arian ac am newidiadau i fformiwla Barnett.
Hwn fydd y tro cyntaf i Brif Weinidog Prydain annerch y Cynulliad ers ymweliad Tony Blair yn 2001.
Fe fydd anerchiad David Cameron yn dilyn cyfarfod o’i gabinet yng Nghymru – y tro cyntaf i’r cabinet presennol gyfarfod yma.
Yn ddiweddarach yn y dydd fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gwneud datganiad ar raglen ddeddfu ei lywodraeth dros y pum mlynedd nesaf.