Fe fydd cynghorwyr Gwynedd yn penderfynu ar argymhellion i gau dwy ysgol gynradd ym Meirionnydd yr wythnos yma.

Mae cynlluniau’r cyngor ar gyfer dyfodol addysg yn nalgylch Ysgol y Gader, Dolgellau, yn cynnwys argymhelliad i gau Ysgol Llanfachreth, ac fe fyddai naill ai Ysgol Brithdir neu Ysgol Ieuan Gwynedd yn Rhydymain hefyd yn cau.

Yn eu lle fe fyddai ysgol aml safle yn agor ym Medi 2013,  gydag un safle yn y Brithdir neu Rydymain a’r llall yn Ninas Mawddwy.

Dywed arweinydd portffolio Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Liz Saville Roberts fod yr argymhellion wedi cael eu llunio yn dilyn cyfres o gyfarfodydd lleol yn nalgylch Ysgol y Gader.

“Dw i’n hynod falch bod yr holl drafodaethau lleol wedi dwyn ffrwyth, a bod Cyngor Gwynedd yn symud ymlaen gyda chonsensws cyffredinol ar yr angen i ad-drefnu ysgolion cynradd ac uwchradd yn Nolgellau a’r cymunedau o amgylch y dref,” meddai.

Ymysg yr argymhellion eraill mae ymgynghori ar yr egwyddor o sefydlu ysgol aml-safle 3 i 16 oed yn Nolgellau ar safleoedd presennol Ysgol Gynradd Dolgellau ac Ysgol Uwchradd Y Gader, gan wella adnoddau adeiladau’r ysgol gynradd

Fodd bynnag, argymhellir gohirio’r drafodaeth am y tro yn ardal orllewinol y dalgylch, sef ysgolion Llanelltyd, Clogau, Ganllwyd a’r Friog.

Os bydd y Cyngor llawn yn cefnogi’r argymhellion yn ei gyfarfod ddydd Iau,  fe fydd y cynigion yn destun ymgynghoriad yn yr hydref.