Bydd grŵp o ddysgwyr Cymraeg yn dod ynghyd i wylio rhaglen gyntaf y gyfres cariad@iaith:love4language heno ar S4C.

 Bydd y dysgwyr, sy’n cyfarfod bob nos Lun yn Nhafarn yr Hanner Ffordd yn Y Felinheli, hefyd yn sôn am eu profiadau yn dysgu Cymraeg trwy ddull TPR ac yn cyflwyno eu barn nhw am y rhaglen.

 “Ro’n i’n meddwl y byddai’n syniad da i gyplysu ein sesiwn ddysgu ni hefo’r rhaglen cariad@iaith:love4language gan mai’r un dull dysgu sy’n cael ei ddefnyddio gan y naill a’r llall,” meddai’r tiwtor, Aled G Job.

 Fe fydd y criw yn cael eu sesiwn arferol yn yr Halfway, ac yna’n gwylio’r rhaglen.

 “Mi fyddai i wedyn yn annog ein dysgwyr i gyflwyno eu sylwadau i’r blog y mae S4C wedi ei sefydlu i gyd-fynd a’r rhaglen,” meddai Aled Job.

 Dywedodd y byddai hyn yn dangos nad “gimic” ar gyfer enwogion yn y cyfryngau yw TPR, ond ei fod yn ddull dysgu go iawn, sy’n gynyddol boblogaidd ymhlith pobl gyffredin sy’n dysgu’r Gymraeg yng Nghymru heddiw.

 Preswadio mwy o bobl

 “Fy ngobaith i ydi y bydd y rhaglen cariad@iaith nid yn unig yn perswadio mwy o bobl i fynd ati i ddysgu Cymraeg, ond bod mwy o ddarparwyr a thiwtoriaid iaith yn cofleidio’r dull dysgu gwych hwn” meddai.

 “Mae’n ddull gwych ar gyfer tanio ochr dde’r ymennydd – yr ochr greadigol, chwareus, a dychmygus hwnnw lle bo dysgu yn gallu digwydd yn gyflym a diymdrech. 

  “I mi, mae’r dull TPR o ddysgu yn ffordd lawer mwy ‘naturiol’ o ddysgu iaith, yn enwedig geirfa hanfodol bob dydd mewn sefyllfaoedd go iawn,” meddai Caroline Winston, dysgwraig Cymraeg sy’n gweithio fel rheolwraig gyda  Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.