Llun o wefan cwmni Southern Cross
Rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau’r canllawiau comisiynu gofal er mwyn osgoi argyfwng tebyg i fethdaliad cartrefi henoed Southern Cross.

Dyna oedd galwad llefarydd ar ran Swyddfa Comisynydd Pobl Hŷn Cymru heddiw wrth fynegi pryder am drigolion y 34 o gartrefi gofal sydd ganddyn nhw yng Nghymru.

“Mae gan bawb o drigolion Southern Cross yng Nghymru’r hawl at gartref a bywyd preifat a sicrheir gan y Ddeddf Hawliau Dynol,” meddai  Alun Thomas, Pennaeth Archwiliadau a Pholisi Comisiynydd Pobl hŷn Cymru wrth Golwg360.  

Fe gadarnhaodd Southern Cross heddiw eu bod yn cau ar ôl i landlord yr adeiladau gefnu ar y cwmni. Mae gan y grŵp gyfanswm o 752 o gartrefi trwy Brydain a 31,000 o bobl yn eu gofal. O’r 34 yng Nghymru, mae’r mwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent.

“Rhaid i bawb, gan gynnwys eiriolwyr a chynhalwyr gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf a chael dweud eu dweud ar yr hyn all effeithio eu gofal boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol,” meddai Alun Thomas.

Dywedodd bod rhaid “sicrhau bod y trefniadau perchnogaeth yn cael eu cwblhau cyn gynted ag y bo’r modd” er mwyn “arbed yr ansicrwydd damniol sydd wedi ei greu gan y cyhoeddiad heddiw.”

 ‘Cynlluniau busnes cadarn’

 “Mae’r cwmni yn ceisio tawelu meddyliau y bydd cysondeb yn y gofal a gynigir – serch hynny mae’n dipyn o gamp amgyffred sut y gellir cynnal gwasanaethau yn gyson ar draws o leiaf 80 o landlordiaid gwahanol,” meddai Alun Thomas. 

 “Mae swyddogaeth bendant fan hyn i’r rheoleiddiwr a’r awdurdodau lleol i sicrhau fod y realiti yn gyson efo’r dyheadau. Dylai’r landlordiaid fel darparwyr newydd sicrhau cynlluniau busnes cadarn ac mae swyddogaeth bwysig gan y pwyllgor ailstrwythuro,” meddai.

 Fe ddywedodd hefyd bod rhaid “sicrhau na ailadroddir y sefyllfa sy’n wynebu trigolion Southern Cross.”

 Hygrededd ariannol

 “Dylid gosod hawl a chyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i werthuso hygrededd ariannol cwmnïau sy’n cynnig gofal, gan gydnabod y sialens o gael y maen i’r wal gyda chwmnïau a gofrestrir tu allan i Brydain. Dylai llywodraeth Cymru gryfhau’r canllawiau comisiynu gofal cymdeithasol i’r perwyl hwn,” meddai.

 “Dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y cynlluniau i ddatblygu rhwydwaith o ‘Gartrefi dielw’ fel y rhagwelwyd o dan gynllun Cymru’n Un y llywodraeth flaenorol.”

 Dywedodd na ddylai’r trigolion mwyaf bregus “fod yn ddibynnol ar ddarpariaethau cignoeth grymoedd y farchnad.”