Elin Jones
Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn honni bod rheolwyr Radio Ceredigion yn ceisio dial arni am wrthwynebu eu cais i ddarlledu llai o Gymraeg.
“Yn ddiweddar, fe ddwedwyd wrth unigolyn oedd yn cael ei gyfweld ar Radio Ceredigion na fedrid yngan fy enw ar yr awyr,” meddai.
“Ac mae’n debyg taw penderfyniad rheolwyr oedd tu cefn i hyn.”
Dywed y cyn-weinidog cefn gwlad ar ei blog ei bod hi’n sicr fod perchnogion newydd Radio Ceredigion, sef Town & Country Broadcasting, yn flin iddi wrthwynebu eu cais i OfCom i leihau faint o Gymraeg a ddarlledir ar Radio Ceredigion.
“Doeddwn i ddim wedi meddwl y byddai’r hyn sy’n digwydd rhwng News International ac arweinyddion pleidiau Llafur a Thorïaid Prydeinig yn digwydd hefyd ar lawr gwlad fan hyn yng Ngheredigion,” meddai.
“Ond, mae’n debyg fod y darlledwr yma hefyd yn disgwyl cydymffurfiaeth lwyr gan y gwleidyddion.”
Mae’n herio’r cwmni i wrthbrofi ei honiadau:
“Os gaiff ei wadu mod i wedi fy ngwahardd, yna gobeithio y byddaf nôl ar Radio Ceredigion yn y dyfodol agos,” meddai.
Mae Golwg360 wedi cysylltu â Radio Ceredigion i drafod yr honiadau ac yn disgwyl am eu hymateb.