Mae disgwyl y bydd y tri o Gymru a gafodd eu harestio yn Israel ddydd Gwener yn cael eu hanfon yn ôl i Brydain ymhen ychydig ddyddiau.

Roedd y tri, gan gynnwys Pippa Bartalotti, dirprwy arweinydd Plaid Werdd Cymru, wedi teithio i Israel ar daith ddyngarol gyda’r bwriad o ymweld â Bethlehem ar lan orllewinol yr Iorddonen.

Dywedodd Jake Griffiths o’r Blaid Werdd wrth Golwg 360 ei fod yn cael ar ddeall y byddai’r tri “yn cael eu hanfon yn ôl i Brydain o Israel tua diwedd yr wythnos.”

Mae’r Blaid Werdd wedi bod yn galw ar Lywodraeth Prydain i roi pwysau ar awdurdodau Israel i ryddhau’r 12 o Brydeinwyr – sy’n cynnwys y tri o Gymru – er mwyn iddyn nhw gael bwrw ymlaen â’r gwaith heddychol yr oedden nhw’n bwriadu ei wneud ar y Lan Orllewinol.

Cafodd y 12 eu rhoi yn y ddalfa yn fuan ar ôl glanio ym Maes Awyr Ben Gurion yn Tel Aviv ddydd Gwener diwethaf, ac mae’n debyg eu bod bellach yn cael eu cadw dan glo yng ngharchar Givon. Mae rhai adroddiadau yn awgrymu bod yr awdurdodau yn atal y criw rhag cael bwyd a dŵr am gyfnodau hir.

Dyw hi ddim yn glir eto ar ba sail gyfreithiol y mae’r criw wedi cael eu dal gan yr awdurdodau.

“Dyw hi ddim yn ymddangos bod unrhyw reswm iddyn nhw gael eu cadw dan glo,” meddai Jake Griffiths. “Mae gan ddinasyddion Prydain yr hawl i deithio i’r Lan Orllewinol, i fod.”

Galw ar y Gweinidog Tramor

Heddiw, mae arweinydd Plaid Werdd Prydain, Caroline Lucas, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tramor yn gofyn iddo bwyso am ryddhau’r Prydeinwyr yn Israel er mwyn iddyn nhw gael mynd yn eu blaen i Fethlehem.

Mewn llythyr at William Hague, dywedodd Caroline Lucas y dylai holi Israel pam fod ymgyrchwyr ‘heddychol’ wedi cael eu rhoi yn y ddalfa.

“Oes gan Israel bolisi o atal amddiffynwyr hawliau dynol rhag mynd i diriogaethau meddianedig, neu fynd i Israel?

“Fe fyddwn i yn eich annog i bwyso i gael y dinasyddion Prydeinig yma yn rhydd, a bod camau i’w hanfon adref yn cael eu hatal, fel eu bod yn gallu parhau â’u taith heddychol.”

Mae’r 12 i gyd yn aelodau o grwpiau sy’n cefnogi hawliau Palesteiniaid, ac roedden nhw yno’n rhan o brotest heddychlon yn erbyn bloacad llongau Groeg, sy’n atal nwyddau rhag cyrraedd pobol anghenus Gaza.