Llun o wefan cwmni Southern Cross
Mae pryder am ddyfodol 34 o gatrefi henoed yng Nghymru ar ôl i’w perchennog, y cwmni Southern Cross fynd i’r wal.
Cadarnhaodd y cwmni heddiw eu bod yn cau ar ôl i landlord yr adeiladau gefnu ar y cwmni.
Mae gan y grŵp gyfanswm o 752 o gartrefi trwy Brydain a 31,000 o bobl yn eu gofal. O’r 34 yng Nghymru, mae’r mwyafrif ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent.
Mae’r grŵp wedi bod mewn trafodaethau ers peth tro ynglŷn ag ailstrwythuro trefniadau eiddo – ond mae’r pwyslais yn cael ei roi nawr ar drosglwyddo’r cartrefi i ddwylo landlordiaid newydd.
Yn ôl Southern Cross, i sicrhau parhad gofal i bobl y cartrefi – fe ddylai taliadau i gredydwyr barhau.
Mae cyfranddaliadau’r cwmni wedi’u hatal ar unwaith, ac ni fydd cyfranddalwyr yn cael dim yn ôl.
‘Gofal rhagorol’
“Fy nod i a gweddill y tîm yw parhau i ddarparu gofal rhagorol i bob preswylydd ac i reoli’r rhaglen o drosglwyddo yn broffesiynol,” meddai’r Prif weithredwr, Jamie Buchan.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth “na fyddai neb yn cael eu gadael yn ddigartref o ganlyniad i hyn.”
“Mae gan Awdurdodau lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod pobl yn cael gofal addas,” meddai.
Fodd bynnag, doedd dim sicrwydd y byddai pobl yng nghartrefi Southern Cross yn aros yn yr un cartrefi.