Gallai 250 o swyddi yng ngwasanaethau tân Cymru gael eu torri o fewn pum mlynedd oherwydd toriadau llym yng nghyllid y gwasanaeth, yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi dod i law Undeb y Frigad Dân.

Mae ymchwil newydd gan yr undeb yn dangos bod mil o swyddi eisoes wedi mynd ar draws Prydain ym mlwyddyn gyntaf y cynllun arbedion – a 4% o’r toriadau hynny wedi bod yng Nghymru.

Mae’r ymchwil wedi ei seilio ar wybodaeth sydd wedi dod i law’r undeb drwy’r ddeddf rhyddid gwybodaeth, ac mae’n edrych ar y toriadau i’r gwasanaeth tân yng ngwledydd Prydain rhwng 31 Mawrth 2010 a 31 Mawrth 2011.

Mae’r undeb yn dweud y byddai’r cynllun toriadau pum-mlynedd sydd ar waith gan y Llywodraeth ar hyn o bryd yn golygu bod o leia’ 6,000 o swyddi yn y gwasanaeth tân ar draws Prydain yn cael eu colli erbyn 2014. Byddai hyn yn golygu colli oddeutu 250 o swyddi yn y gwasanaeth tân yng Nghymru o fewn pum mlynedd.

Mae’r ffigyrau ar gyfer Cymru yn dangos mai yn y canolbarth a’r gorllewin y bu’r toriadau mwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 27 swydd wedi mynd yn y cyfnod. Dim ond un swydd a gollwyd yng ngogledd Cymru am yr un cyfnod.

Dim ond un rhanbarth ym Mhrydain a welodd gynnydd yn y nifer o weithwyr yn y gwasanaeth tân dros y flwyddyn ddiwethaf, ac ardal Llundain oedd hwnnw – gyda 62 o weithwyr ychwanegol. 

‘Peryglu’r cyhoedd’

Mae’r Undeb y Frigad Dân yn dweud bod toriadau o’r maint hyn yn bygwth “dinistrio’r gwasanaeth tân ac achub,” a’u bod yn “rhoi’r cyhoedd a’r ymladdwyr tân mewn perygl.” 

Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Matt Wrack, bydd “llai o griwiau tân yn golygu y bydd hi’n cymryd hirach i’r injanau tân gyrraedd wrth ymateb i alwad 999.

“Bydd risg cynyddol i fywyd, cartrefi, busnesau a’n treftadaeth diwylliannol a naturiol wrth i’r toriadau gnoi’n ddyfnach blwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Bydd grantiau gan Llywodraeth ganolog i’r gwasanaethau tân ac achub yn cael eu torri o 25% dros y bedair mlynedd nesaf, ac mae Undeb y Frigad Dân yn disgwyl y bydd y toriadau yn mynd yn waeth bob blwyddyn.

Mae nifer fawr o’r toriadau yn dod yn sgîl ymddeoliadau ac ymadawiadau, lle mae’r swydd flaenorol yn cael ei dileu yn hytrach na’i hail-hysbysebu.