Mae staff cwmni cyfieithu o Gaernarfon wedi colli eu llety yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ar ôl i westy’r ddynes fusnes Stephanie Booth fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Roedd criw o 10 o staff cwmni Cymen wedi archebu lle yng Ngwesty’r Wynnstay Arms yn Wrecsam “dros flwyddyn yn ôl,” meddai Aled Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni wrth Golwg360.

“Roedden ni wedi talu £250 o flaendal ar ôl bwcio dros flwyddyn yn ôl,” meddai wrth Golwg360 cyn dweud mai’r her i’r cwmni nawr fydd dod o hyd i westy agos at y maes ar gyfer  10 aelod staff.

“Roedden ni wedi trio bod yn drefnus. Ond, mae’r sefyllfa allan o’n dwylo ni,” meddai Aled Jones cyn egluro ei fod wedi ceisio cysylltu â Chwmni KPMG ddydd Gwener, ond eu bod nhw wedi “gwadu” bod gyda nhw ddim i’w wneud a’r sefyllfa blaendal – er eu bod nhw’n ymwybodol o’r achos.

‘Ddim eisiau mynd dros y ffin’

“Beth sy’n braf yw cael aros yn agos at y maes a’r dre i gael awyrgylch yr Eisteddfod.

“Gall diwrnod yn cyfieithu ddechrau am 8.30yb a bod cyngerdd am 10yh. Mae pethe’n digwydd ar y maes, darlithoedd, cynadleddau wasg ac yn y pafiliwn. Mae’n rhaid i’r tîm i gyd fod yno yn barod i ymateb,” meddai.

“Dydyn ni ddim eisiau mynd dros y ffin i aros i Loegr – o ran egwyddor yn ystod wythnos yr eisteddfod.

“Mae’n siŵr mai mater ar gyfer diwedd mis Awst fydd adennill y blaendal, y flaenoriaeth nawr yw ffeindio rhywle arall i aros,” meddai.