Oriau’n unig cyn i gôr o America gystadlu ar lwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddoe, cafodd y 78 aelod eu dihuno yn eu gwesty i glywed bod yn rhaid iddyn nhw adael ar unwaith – gyda’u heiddo, ond heb gael brecwast.

Roedd y côr ieuenctid wedi bod yn aros yng Nghwesty’r Wynnstay yn Wrecsam y noson gynt – un o westai Stephanie Booth sydd nawr yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r newyddion annisgwyl wedi gadael staff a gwesteion yn syn, ac mae llawer yn flin na chafwyd unrhyw rybudd ynglŷn â’r datblygiad hyd nes yn gynnar bore ddoe, wrth i weinyddwyr gau’r gwesty.

Yn ôl llefarydd ar ran Eisteddfod Ryngwladol Llangollen bu’n rhaid i’r trefnwyr “weithio’n galed drwy’r dydd ddoe i ddod o hyd i lety arall i’r cystadleuwyr.”

Llwyddodd y Cydlynydd Cystadleuwyr Tramor, Brian Evans, i gael gwesty arall i Gôr Cyngerdd Prifysgol Mansfield erbyn brynhawn ddoe, ac maen nhw wedi llwyddo i gadw’r criw gyda’i gilydd, yn yr International Hotel yn Telford.

Llwyddwyd hefyd i drefnu brecwast i’r criw yn yr Hand Hotel yn Llangollen ar ôl iddyn nhw gael eu gwthio o’r Wynnstay.

Roedd y côr o aelodau 18-25 oed yn cystadlu yn y Côr Ieuenctid brynhawn ddoe, ac fe fyddan nhw’n cystadlu ddwywaith eto heddiw ac yfory.