Mae corff gwrachod buddiannau defnyddwyr wedi rhybuddio heddiw nad oes digon yn cael ei wneud er mwyn atal afiechydon rhag lledu mewn toiledau ysgolion.

Rhybuddiodd Llais Defnyddwyr Cymru nad yw’r canllawiau i wella safonau yn nhoiledau ysgolion Cymru yn mynd yn ddigon pell i leihau’r risg y gallai disgyblion ledaenu heintiau peryglus megis E.coli O157 a salmonela.

Dywedodd y corff dylai cynghorau benderfynu a ydi toiledau ysgolion yn ddigon glan i ddisgyblion eu defnyddio ai peidio.

Doedd canllawiau Llywodraeth y Cynulliad ddim yn cwrdd ag argymhellion adroddiad a gynhaliwyd yn dilyn achosion E.coli 2005, medden nhw.

Fe aeth 150 o bobol yn sâl ac fe fu farw un disgybl pump oed, Mason Jones, o ganlyniad i’r achosion.

Roedd yr adroddiad gan yr Athro Hugh Pennington yn argymell y dylai pob awdurdod lleol sefydlu rhaglen o archwiliadau i sicrhau bod cyfleusterau tŷ bach a golchi dwylo digonol ym mhob ysgol.

Toiledau ‘ddim yn flaenoriaeth’

“Rydym yn croesawu’r canllawiau hyn ac yn cytuno eu bod yn nodi arfer gorau o ran y cyfleusterau eu hunain,” meddai Jennie Bibbings, uwch eiriolwr polisi Llais Defnyddwyr Cymru.

“Ond nid ydym yn cytuno eu bod yn bodloni gofynion argymhelliad yr Athro Pennington oherwydd mai prin yw’r cyfeiriad ynddynt at sut y bydd safonau’n cael eu monitro ar lefel awdurdod lleol.

‘Heb gael y darlun eang hwnnw ar lefel awdurdod lleol, nid oes unrhyw fodd o werthuso i ba raddau y mae ysgolion yn dilyn yr arfer gorau nac o wybod pa un a yw’r canllawiau wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i ansawdd y ddarpariaeth mewn gwirionedd.’

‘Yn yr hinsawdd ariannol bresennol efallai bod toiledau ysgolion yn flaenoriaeth isel, ond gallai safonau hylendid ddioddef, gan gynyddu’r perygl o salwch ymhlith plant ysgol. Os na weithredir ei argymhelliad gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn.”

Mae’r corff defnyddwyr hefyd am i’r canllawiau gynnwys safonau ar gyfer cyfleusterau i’r staff, o ystyried y ffaith fod adroddiadau arolygu hylendid bwyd yn dangos mai amrywiol yw’r cyfleusterau golchi dwylo ymhlith ffreuturau ysgolion.