Fe fydd Plaid Cymru yn ystyried newid patrwm tymhorau ysgol os byddan nhw’n rhan o lywodraeth nesa’ Cymru.

Fe allai hynny gynnwys cael gwared ar y gwyliau hir yn yr haf a chael pedwar tymor ysgol.

Mae  Nerys Evans AC, llefarydd y Blaid ar addysg a’r ymgeisydd dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, yn dadlau y  byddai nifer o fanteision yn deillio o newid y system bresennol i blant, athrawon a rhieni.

Fe fydd Plaid Cymru’n cynnig adolygu’r system o’r bôn i’r brig fel rhan o’u rhaglen Plaid yn Cyfrif a fydd yn thema ganolog eu maniffesto ar gyfer yr etholiad ym mis Mai. 

Yn ôl y Blaid, gall y cynigion olygu “na fydd angen i rieni gymryd eu plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor, y bydd lefelau straen disgyblion ac athrawon yn gostwng, ac y bydd safonau’n codi”.

‘Lles a llwyddiant’

“Yn dilyn llwyddiant y Cyfnod Sylfaen, mae Plaid Cymru eisiau gwneud lles a llwyddiant  plant 8-13 oed yn flaenoriaeth i’n tymor nesaf mewn llywodraeth” meddai Nerys Evans AC. “Mae achos cryf dros ddweud nad yw’r system bresennol mor effeithiol ag y dylai fod.”

Un o’r dadleuon yw fod bechgyn yn arbennig yn anghofio gwybodaeth tros wyliau hir yr haf – yn  ôl y Blaid, fe fyddai trefn newydd yn golygu’r un faint o amser yn yr ysgol ond gyda threfn fwy cyson.