Fe allai cnydau sydd a’u genynnau wedi’u haddasu atal newyn byd-eang, yn ôl prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth San Steffan.

Dywedodd yr Athro John Beddington nad oedd yna un ateb fyddai’n datrys “problem anferth” bwydo’r byd yn y dyfodol.

Fe fydd newid hinsawdd, twf ym mhoblogaeth y byd, a diffyg tanwydd yn rhoi pwysau mawr ar allu’r byd i fwydo’i bobol, meddai.

“Os oes yna organebau wedi’u haddasu’n enetig fyddai’n gallu datrys problemau nad oes modd eu datrys mewn unrhyw ffordd arall, ac sy’n saff i’w bwyta, yna fe ddylen ni eu defnyddio nhw,” meddai wrth BBC Breakfast.

“Rydw i’n meddwl am afiechydon newydd sydd yn debygol o ddod yn sgil newid hinsawdd, sychdwr, a halltedd y tir, ac mae angen organebau fydd yn gallu mynd i’r afael â hynny.”

Roedd yn siarad cyn cyhoeddi adroddiad sydd wedi ei gomisiynu gan y Llywodraeth sy’n rhybuddio fod angen gweithredu brys er mwyn atal newyn ar raddfa anferth yn y dyfodol.

“Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n mynd i ddioddef o brinder bwyd os ydyn ni’n gweithredu nawr ond does dim amser i ymlacio a dweud bod popeth yn iawn,” meddai John Beddington.

“Mewn ugain mlynedd fe fydd poblogaeth y byd yn llawer uwch ac fe fydd yna alw mawr am fwyd, dŵr ac egni.”