Dinasoedd yng Nghymru yw dwy o’r pump mwya’ bregus yng ngwledydd Prydain yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r corff ymchwil, y Centre for Cities, yn dweud y bydd hi’n llawer mwy anodd i Gasnewydd ac Abertawe ddod trwy’r argyfwng economaidd ac mae angen rhagor o gymorth arnyn nhw.

Mae’r adroddiad yn dweud bod nifer o ddinasoedd yn dechrau cryfhau eto, gan gynnwys Bryste, ond fe fydd yn rhaid i ddinasoedd eraill gael rhagor o arian a chynlluniau “realistig” i’w hadfer.

Sector preifat

Roedd y ganolfan wedi ystyried ffactorau’n ymwneud â cholli swyddi cyhoeddus, prinder sgiliau a gallu’r sector preifat i gynhyrchu swyddi newydd.

Yn ôl yr adroddiad, fydd swyddi preifat ddim yn cael eu creu’n gyfartal ymhobman – roedd yna ddiffyg cydbwysedd mawr yn ystod y deng mlynedd diwetha’.

Mae’r Ganolfan yn dweud bod traean yr holl swyddi preifat wedi cael eu creu mewn 11 o ddinasoedd – a does yr un o’r rheiny yng Nghymru.

Barn y Ganolfan

“Yn ystod 2011, fe fydd y dinasoedd Prydeinig sydd fwya’ dibynnol ar y sector cyhoeddus, ac sydd wedi cael twf economaidd arafach yn ystod y deng mlynedd diwetha’, yn ei chael hi’n fwy anodd i newid cyfeiriad at y sector preifat. Bydd angen i’r dinasoedd hyn gael cynlluniau gweithredu realistig i oresgyn y toriadau gwario a chreu swyddi – ond fe fyddan nhw hefyd angen rhagor o arian gan Lywodraeth ganol.” – Alexandra Jones, Prif Weithredwr y Centre for Cities.