Mae hyfforddwr Cymru wedi dangos ei fod yn newid yr hen drefn wrth hepgor y blaenwr mwya’ profiadol o garfan y Chwe Gwlad.

Does dim lle i Martyn Williams a’i 98 cap wrth i Warren Gatland ddewis pump o chwaraewyr di-gap.

Mae dau o’r rheiny’n cael eu gorfodi oherwydd anafiadau tymor hir i’r ddau Lew yn y rheng flaen, Gethin Jenkins ac Adam Jones, ond mae hepgor Martyn Williams yn arwydd o symud cenhedlaeth cyn Cwpan y Byd.

Wrth gyhoeddi’r garfan, fe ddywedodd Gatland fod yr anafiadau i Jenkins a Jones yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc. Roedd hefyd am gadw at bolisi 2008 o ganolbwyntio ar nifer lai o chwaraewyr sy’n ffit ac ar eu gorau.

Y dewisiadau mawr

Ryan Bevington o’r Gweilch a Scott Andrews o’r Gleision yw’r ddau brop newydd, gydag wythwr ifanc y Dreigiau, Toby Faletau, hefyd wedi’i gynnwys ochr yn ochr â’r Scarlet Josh Turnbull yn y rheng ôl.

Rhys Priestland o’r Scarlets yw’r chwaraewr di-gap arall, yn disodli Dan Biggar o’r Gweilch. Ac yntau’n gallu chwarae maswr neu gefnwr, mae’n cynnig hyblygrwydd, ac mae’r asgellwr-gefnwr o Lanelli, Morgan Stoddart, hefyd yn y garfan.

Yn ôl y disgwyl, mae mewnwr y Sharks, Dwayne Peel, yn ôl yn y garfan ar ôl gwaharddiad ar Richie Rees ac, er mai’r bachwr Matthew Rees sy’n cadw’r gapteniaeth, mae ei ragflaenydd, Ryan Jones, i mewn yn yr ail reng.

Dyma’r garfan gyfan:

Blaenwyr:

Paul James (Gweilch), John Yapp (Gleision), Craig Mitchell (Gweilch), Ryan Bevington (Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Matthew Rees (Scarlets, capten), Richard Hibbard (Gweilch); Alun Wyn Jones (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Ryan Jones (Gweilch); Sam Warburton (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Andy Powell (Wasps), Josh Turnbull (Scarlets), Toby Faletau (Dreigiau), Dan Lydiate (Dreigiau).
Olwyr:

Mike Phillips (Gweilch), Dwayne Peel (Sharks), Tavis Knoyle (Scarlets); Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets); James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets); Shane Williams (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision); Lee Byrne (Gweilch)