Mae’r BBC wedi cadarnhau y bydd 360 o staff yn colli eu gwaith wrth iddyn nhw wario 25% yn llai ar wefan y gorfforaeth erbyn 2013.

Fe fydd hynny’n cynnwys 16 o swyddi yn BBC Cymru.

Mae’r BBC yn paratoi ar gyfer toriadau mawr ar draws y gorfforaeth er mwyn cwrdd â’r targedau gytunwyd iddyn nhw yn ystod trafodaeth gyda Llywodraeth San Steffan ym mis Hydref.

Cytunodd Ymddiriedolaeth y BBC i’r toriadau yn dilyn adolygiad strategol i wefan y gorfforaeth. Fe fydd hanner tudalennau gwe y wefan yn cael eu dileu.

Dywedodd y BBC eu bod nhw hefyd yn gobeithio darparu rhagor o ddolenni i gystadleuwyr masnachol.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Mark Thompson, fod y gorfforaeth yn cynnal ystod eang o wefannau a bod hynny’n golygu nad oedden nhw weithiau “yn cwrdd â’r disgwyliadau”.

“Fe fydd canolbwyntio ar ein blaenoriaethau golygyddol ac ymrwymiad i’r safonau uchaf yn help i ni drawsffurfio gwefan y BBC yn y dyfodol,” meddai.