Mae Cymru’n ymuno mewn apêl gan elusen ryngwladol i geisio achub bywydau dwy filiwn o blant bob blwyddyn.

Yn ôl Cronfa Achub y Plant, fe fyddai dau frechiad rhad – gwerth cyn lleied â 50c yr un – yn ddigon i atal chwarter y marwolaethau sy’n digwydd bob blwyddyn oherwydd niwmonia a dolur rhydd.

Mae wyth miliwn o blant yn marw bob blwyddyn ar draws y byd oherwydd yr afiechydon ond, yn ôl yr elusen, fe fyddai rhagor o frechiadau, nyrsys a bydwragedd yn ddigon i newid hynny.

Mae nifer o sêr teledu ac adloniant yn llysgenhadon ar ran yr elusen, gan gynnwys Heledd Cynwal yng Nghymru, sy’n fam i dri o blant bach.

“Fel rhiant mae rhywun yn cymryd yn ganiataol y brechiadau y mae ein plant yn eu derbyn yn gynnar iawn yn eu bywydau i’w hamddiffyn rhag afiechydon a all fygwth eu bywydau,” meddai.

“Ond dyw nifer o rieni yn y gwledydd tlotaf ddim mor ffodus. Mae babanod a phlant bach yn marw yn ddiangen o’r hyn y bydden ni yn ei ddisgrifio fel bola tost – dolur rhydd. Eto dim ond 50c y plentyn y mae’n ei gostio i roi’r brechiad yma a fyddai’n gallu achub bywyd.”