Mae sw môr yn yr Almaen wedi datgelu cerflun goffa i Paul yr Octopws.

Roedd Paul yr Octopws wedi darogan yn gywir canlyniad sawl un o gemau’r Cwpan y Byd dros yr haf.

Fe ddewisodd Paul enillydd pob un o gemau’r Almaen yn gywir, yn ogystal â phroffwydo buddugoliaeth Sbaen yn y ffeinal.

Gwnaeth hynny drwy ddewis rhwng dau focs gyda fflag y ddwy wlad oedd â bwyd ynddyn nhw.

Heddiw datgelodd y sw yn Oberhausen, yr Almaen, cerflun goffa 6 troedfedd 6 modfedd o Paul yn cydio mewn pêl.

Dywedodd llefarydd ar ran y sw môr, Tanja Munzig, bod llwch amlosgiad Paul mewn wrn aur y tu mewn i’r bêl.

Fe fu farw Paul tri mis yn ôl a dywedodd Tanja Munzig bod cefnogwyr ledled y byd wedi galw am gofeb iddo.

Dim ond ychydig flynyddoedd mae octopysau yn byw fel arfer, meddai.