Mae pobol ardal Mbeere yn nwyrain Kenya yn brwydro am eu bywydau ynghanol sychdwr sydd wedi parhau misoedd.

Dywedodd Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol, sydd newydd ymweld â’r ardal i’r gogledd ddwyrain o Nairobi, bod yr hyn sy’n digwydd yn Mbeere yn “peri pryder mawr.”

Dyw’r llywodraeth ddim yn ystyried y sychdwr yn argyfwng cenedlaethol – gan mai rhai ardaloedd yn unig sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Branwen Niclas wrth Golwg360 mai dim ond “tridiau” o ddyddiau glawog oedd wedi bod yn Mbeere rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr, o’i gymharu â’r deufis arferol.

“Roedd y tir yn sych grimp a’r cnydau wedi marw,” meddai cyn ychwanegu fod Cymorth Cristnogol a’u partneriaid “yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd yno”.

Maeth

Dywedodd fod plant dan bump oed yn yr ardal yn dioddef o ddiffyg maeth, prisiau bwyd yn cynyddu wrth i gnydau farw, a da byw wedi colli eu gwerth am nad oes cig arnyn nhw.

Yn ôl un o brif bapurau dwyrain Affrica, Daily Nation, mae pobol yr ardal yn gorfod byw ar ddiet o ddŵr a gwreiddiau sych planhigion.

“Mae beth sy’n digwydd yno’n peri pryder. Mae bywydau’r bobol sy’n byw yno’n fregus iawn,” meddai Branwen Niclas.

Nod Cymorth Cristnogol a’u partneriaid lleol oedd “cadw pobl draw o’r dibyn” yn ystod yr anawsterau.