Mae’r actor a’r ymgyrchwr George Clooney wedi dal malaria, datgelwyd heddiw.

Ysgrifennodd Piers Morgan ar ei wal Twitter bod yr actor wedi dal yr afiechyd ar ôl teithio i dde Sudan, sy’n pleidleisio mewn refferendwm ar annibyniaeth o’r gogledd.

“Mae George Clooney wedi dal malaria ar ei drip diweddaraf i Sudan,” meddai Piers Morgan. “Dyma ei 2il bwl o falaria. Mae’n cymryd moddion ond yn teimlo’n sâl.”

Mae’r actor 49 oed wedi bod yn teithio’n gyson i Sudan er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r brwydro yn Darfur.

Dywedodd George Clooney ei fod wedi ei frathu gan fosgito.

Fe fydd cyfweliad gyda Clooney yn cael ei ddarlledu ar sioe newydd Piers Morgan ar CNN ddydd Gwener.