Cafodd dau o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith eu gorchymyn i dalu iawndal gan lys ynadon heddiw.

Roedden nhw wedi torri i mewn i swyddfa etholaeth Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar wal yr adeilad fel protest yn erbyn y newidiadau i S4C.

Torrodd y ddau i mewn ar 6 Mawrth – y diwrnod yr oedd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cyfarch cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y brifddinas.

Cafodd achos Llys Heledd Melangell Williams a Jamie Bevan ei gynnal yn Llys Ynadon Caerdydd, Plas Fitzalan, heddiw.

Gorchmynnwyd Jamie Bevan i dalu iawndal o £1,020 a £120 mewn costau ac ni fydd yn cael gadael ei gartref rhwng 9pm a 6am am 28 diwrnod.

Dywedodd Jamie Bevan na fyddai yn talu’r iawndal ac y byddai yn rhai i’r barnwr ei anfon i’r carchar.

Ond rhybuddiodd y Barnwr Bodfan Jenkins fod ganddo’r grym i anfon beilïaid i’w gartref os nad oedd yn cydymffurfio â gorchymyn y llys.

Cafodd Heledd Melangell Williams orchymyn i dalu iawndal o £600 a rhyddhad amodol am 12 mis.

Dywedodd Bodfan Jenkins ei fod yn deall beth oedd wedi ysgogi’r diffynyddion, ond nad oedd hynny yn cyfiawnhau eu troseddau.

Ychwanegodd y byddai Jamie Bevan yn wynebu “cosb bellach” am ei fod wedi torri cyhoeddi amodol a osodwyd arno ym mis Chwefror ar ôl paentio graffiti ar un o adeiladau Llywodraeth Cymru.

Dyma’r achos llys cyntaf yn ymwneud â S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain, ac ymgasglodd  torf o tua chant o bobol y tu allan i’r llys i ddatgan eu cefnogaeth.

Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth.

‘Annhegwch’

“Mi wnes i dorri i mewn i swyddfa Jonathan Evans AS … er mwyn tynnu sylw at yr annhegwch a diffyg parch y mae ei blaid yn dangos nid yn unig i S4C ond at y genedl Gymreig yn gyffredinol. Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch ehangach i sicrhau dyfodol i’n hunig sianel Gymraeg,” meddai Jamie Bevan, sy’n 35 oed, ac yn dod o Ferthyr Tudful.

“Cafodd S4C ei sefydlu ar ôl ymgyrch hir iawn pan wrthododd miloedd o bobol i dalu eu trwydded teledu, pan aeth nifer o bobol i’r carchar am weithredu mewn modd tebyg i’r hyn yr ydym ni yn sefyll yma heddiw.

“Yr adeg hynny gwrandawodd y llywodraeth ar ddymuniadau’r bobol a sefydlwyd S4C. Roddwyd ei fformiwla ariannu mewn statud er mwyn ei hamddiffyn rhag ymosodiadau gan wleidyddion y dyfodol. Mae’r gwleidyddion hynny, y blaid Dorïaidd yn Llundain … mor hy ag i feddwl y gallent newid y gyfraith honno fel gallent dorri yn sylweddol ar S4C a threfnu ei fod yn cael ei thraflyncu gan y BBC.”

Dywedodd Heledd Melangell Williams, 21, o Nant Fynnon, Nant Peris, nad oedd yn derbyn rhesymeg y llywodraeth dros y cwtogi eithafol”.

“Ariangarwch y bancwyr achosodd y crisis economaidd a rydd esgus i’r ceidwadwyr gwtogi ar gyllid S4C. Er hyn mae eu bonws dal rhedeg i’r biliynau, nhw achosodd y broblem a nhw sydd efo’r pres i dalu amdano. Ni fyddwn yn talu am gamgymeriadau’r bancwyr drwy dderbyn y toriadau yma.”