Mae teulu mam, tad a thad-cu fu farw mewn damwain ar yr M4 nos Lun wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Cafodd y rhieni ifanc, Thomas Padden, 20, a Louise Evans, 23, eu lladd yn y ddamwain, yn ogystal â’r tad-cu Stephen Padden, 56.

Goroesodd babi chwe mis oed, Logan Padden, a’i fam-gu, Suzanne Padden, 52 oed, y gwrthdrawiad.

Aethpwyd a’r ddau i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd orllewinol yr M4 rhwng cyffyrdd 32 a 33 tua 11.30pm.

Roedd y teulu o Borthcawl yn teithio gyda’i gilydd mewn Peugeot 406 pan aeth oddi ar y ffordd. Doedd yr un cerbyd arall yn rhan o’r gwrthdrawiad.

Teyrngedau

“Roedd Louise yn ferch, mam, chwaer a modryb hyfryd, ofalgar, â chalon o aur,” meddai Myra Evans, mam Louise Evans.

“Daeth i mewn i’r byd am gyfnod byr a gwneud ein bywydau ni yn llawer gwell.

“Mae ein bywydau ni wedi eu newid am byth.”

Talodd y brodyr James a Lewis Padden deyrnged i’w brawd  Thomas a’u tad Stephen Padden.

“Mae eu colli nhw wedi torri ein calonnau ni,” medden nhw.

“Dad oedd y dyn lleiaf hunanol yn y byd. Roedd o’n byw er mwyn treulio amser gyda’i deulu.

“Roedd o wrth ei fodd â Logan ac roedden ni’n edrych ymlaen at y dydd y byddai’n dad-cu i’n plant ni hefyd.

“Roedd Tom yn frawd hyfryd. Roedd ganddo’r gallu i wneud i bobol wenu. Roedd o’n fodlon helpu unrhyw un.

“Roedd yn dad gwych ac wedi aeddfedu yn ddyn. Roedd o’n gwbl ymroddedig i Louise a’u plentyn Logan.

“Roedd Louise fel merch arall i mam a dad ac fel chwaer i ni. Hi oedd y partner perffaith i Tom ac fe fyddai hi wedi bod yn fam wych.”