Mae protest gan Gymdeithas yr Iaith wedi amharu ar  lansiad swyddogol canolfan celfyddydau newydd Prifysgol Bangor heddiw.

Llwyddodd tua 16 o brotestwyr i oedi lansiad prosiect Pontio gan y Prif Weinidog Carwyn Jones am tua 20 munud.

Roedden nhw’n cario posteri yn dweud “Ble mae’r Gymraeg?“, “Pontio, fflop i’r gymuned a’r Gymraeg”, ac “A fo ben bid fflop”.

Mae’r ganolfan Pontio ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn tua £30 miliwn o arian cyhoeddus.

Ond dywedodd y Gymdeithas nad yw’r rhan fwyaf o’r swyddi sydd wedi eu hysbysebu yn gofyn am allu’r Gymraeg, a hynny er bod dros 70% o boblogaeth Gwynedd yn siarad yr iaith.

‘Dim atebion’

“Yn agoriad swyddogol y prosiect heddiw, fe ddylai’r prif Weinidog fod wedi condemnio’r Brifysgol am niweidio’r Gymraeg yn lleol,” meddai Menna Machreth llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy’n fyfyrwraig PhD yn y brifysgol.

“Mae’r prosiect wedi derbyn llwyth o arian cyhoeddus, ond mae’r Brifysgol yn anwybyddu ei dyletswyddau i’r gymuned leol unwaith eto.

“Mae’n gwbl groes i gynllun iaith y Brifysgol a strategaeth iaith Llywodraeth Cymru. Mae’r Brifysgol yn anwybyddu barn ei phwyllgor dwyieithog ei hunan. Yr eironi ydy mai rhan o bwrpas y prosiect hwn yw adfywio’r gymuned, ond mi fydd y prosiect yn tanseilio’r gymuned yn ieithyddol.

“Mae polisi dwyieithog y coleg yn hollol arwynebol. Os byddant yn parhau i ddilyn y llwybr hwn, fydd bron neb yn siarad yr iaith Gymraeg yn y brifysgol nac ym Mangor chwaith.”

Y ganolfan newydd yn creu swyddi

Mae disgwyl i’r canolfan gelfyddydau fydd yn costio £37m greu 900 o swyddi ym Mangor.

Bydd canolfan Pontio yn cynnwys theatr 550 o seddi ac amrywiaeth o gyfleusterau eraill.

Y gobaith yw y bydd y canolfan yn agor yng ngwanwyn 2013.

Dywedodd cynghorydd o ardal Bangor wrth Golwg360 heddiw ei bod wrth ei bodd y bydd y canolfan gelfeddydau newydd yn creu swyddi yn yr ardal.

Roedd “twll” wedi bod ym mywyd y ddinas ers i’r hen Theatr Gwynedd gau yn Hydref 2008, meddai June Marshall, cynghorydd ward Menai ym Mangor.

 “Fe fyddan ni’n siwr o elwa o’r Ganolfan. Dw i’n mwynhau’r theatr ac wedi bod yn mynd i Landudno i weld cynyrchiadau – ond fe fyddai’n well gen i gefnogi Bangor,” meddai.

“Fe fydd y lansiad yma yn ddechrau newydd i Fangor.”

Carwyn Jones

 “Rwy’n falch o fod yma heddiw i weld y cynlluniau ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn a fydd yn cynnig llawer o gyfleusterau a chyfleoedd i ddinas Bangor a’r Gogledd-orllewin,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones wrth lansio’r prosiect.

“Bydd y cynllun hwn yn elwa ar sgiliau ac arbenigedd lleol, ac yn diogelu cannoedd o swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn hyrwyddo twf economaidd yr ardal….”