Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael “dechrau arbennig” yn ôl cadeirydd y bwrdd gweithredol.

Fe fydd y coleg yn cael ei sefydlu ym mis Mai, ac yn cynyddu’r cyfle i astudio pynciau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae yna eisoes ymateb da wedi bod i ysgoloriaethau newydd ar gyfer israddedigion.

Ers y dyddiad cau mae 171 o ddarpar fyfyrwyr o bob cwr o Gymru wedi gwneud cais am 50 ysgoloriaethau gwerth hyd at £3000 yr un i fyfyrwyr.

Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ddechrau’r Gwanwyn.

“Mae hyn yn ddechreuad arbennig i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn profi’r galw sydd yn bodoli am addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Darpar Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Coleg, Yr Athro Merfyn Jones.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gael croesawu datblygiadau cyffrous eraill a fydd yn cyfrannu at ddatblygu a chynnal darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn modd strategol a chynaliadwy i’r sector addysg uwch yng Nghymru.”

Mae 7 o sefydliadau addysg uwch Cymru yn rhan o’r cynllun ysgoloriaethau newydd, sef; Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Mae’r coleg newydd yn gobeithio creu o leiaf 20 o swyddi darlithio erbyn mis Medi 2011.

Bydd nifer y swyddi academaidd yma’n cynyddu i 100 erbyn 2015/16.