Cafodd y cyn brif weinidog Tony Blair ei wawdio heddiw wrth iddo ddweud ei fod yn difaru bod cymaint o bobol wedi marw yn Rhyfel Irac.

Clywodd yr ymchwiliad swyddogol i’r rhyfel ei fod “wir yn difaru” marwolaeth dinasyddion Irac a milwyr Prydain.

Cafodd ei wawdio gan rai yn y gynulleidfa, a gwaeddodd un ddynes: “Mae’n rhy hwyr.”

Roedd teuluoedd y 179 o filwyr Prydeinig sydd wedi marw yn Irac ers dechrau’r brwydro wedi beirniadu Tony Blair ar ôl iddo roi tystiolaeth i’r ymchwiliad y llynedd.

Bryd hynny dywedodd y cyn brif weinidog wrth ymchwiliad Chilcot nad oedd yn difaru unrhyw beth.

“Ar ddiwedd y gwrandawiad y llynedd, roeddech chi wedi gofyn a oeddwn i’n difaru unrhyw beth am y rhyfel,” meddai, dan deimlad.

“Ar y pryd roeddwn i wedi ystyried y cwestiwn yn un am fynd i ryfel. Ond roedd rhai wedi meddwl fy mod i’n cyfeirio at y bywydau sydd wedi eu colli.

“Hoffwn i ei gwneud hi’n fy mod i, wrth gwrs, wir yn difaru bod cymaint wedi marw.”

Gwatwar

“Mae’n rhy hwyr,” meddai Rose Gentle, mam Gordon Gentle, fu farw yn Basra yn 19 oed yn 2004.

“Mae blynyddoedd wedi mynd heibio,” gwaeddodd rhywun arall.

Roedd perthnasau eraill yn eu dagrau yn yr eisteddle cyhoeddus. Gadawodd Tony Blair heb edrych i’w cyfeiriad nhw.

“Fe wnaeth eich celwyddau chi ladd fy mab,” gwaeddodd Rose Gentle wrth i’r cyn brif weinidog adael. “Gobeithio eich bod chi’n gallu byw gyda hynny.”

Dywedodd Reg Keys, o Lanuwchllyn, gollodd ei fab Tom Keys, 20, yn Irac, ei fod yn teimlo bod Tony Blair wedi osgoi ateb y cwestiynau unwaith eto.

“Mae o’n berfformiwr da iawn mewn sefyllfaoedd fel hyn,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod nad oedd gan Irac ddim byw i’w wneud ag ymosodiad 9/11.

“Roedd o’n ymddangos yn naïf iawn, am nad oedd yn gwybod y byddai’n creu ansefydlogrwydd yn Irac.”

Bush a Blair

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Tony Blair ei fod wedi dweud wrth George Bush y byddai’n cefnogi cael gwared ar Saddam Hussein ers y dechrau.

Cyfaddefodd ei fod wedi trafod cael gwared ar Saddam Hussein nôl ym mis Rhagfyr 2001 – er nad oedd yn bolisi Prydeinig ar y pryd.

“Eu polisi nhw oedd newid llywodraethiad Irac ac felly roedd hynny’n rhan o’n trafodaethau ni,” meddai Tony Blair wrth yr ymchwiliad.

“Os mai dyna’r unig ffordd o ddelio â’r mater roedden ni’n mynd i gefnogi hynny.”

Clywodd yr ymchwiliad bod Tony Blair wedi anwybyddu rhybudd ei gynghorydd cyfreithiol pennaf a ddywedodd y byddai ymosod ar Irac heb gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig yn anghyfreithlon.

Dywedodd Tony Blair nad oedd ei ddehongliad ef o reolau’r Cenhedloedd Unedig yr un fath.