Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i fachgen 18 mlwydd oed ddioddef anafiadau difrifol yn ystod ymosodiad gan grŵp o fechgyn.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yng Nghyffordd Corporation Road a Stryd Penhevad yn Nhrelluest, Caerdydd, am 7.30pm ddoe.

Mae’r bachgen yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Dyw meddygon ddim yn credu bod ei gyflwr yn angheuol ac mae’r Heddlu wedi arestio pump o bobl mewn cysylltiad â’r drosedd.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Bae Caerdydd ar 02920 527420, 101, neu alw Taclo’r Tacle’ yn ddienw ar 0800 555111.