Arwydd Plaid Cymru
Mae un o gyn Ysgrifenyddion Plaid Cymru wedi galw ar y blaid i fod yn fwy pendant ynglŷn â’i nod terfynol wrth iddi ail-asesu ei chenhadaeth yn sgil canlyniad Etholiad y Cynulliad eleni.

Yn ôl Emrys Roberts, sy’n gyn Ysgrifennydd Cyffredinol ac ymgeisydd seneddol Plaid Cymru, dylai Cymru ddysgu o brofiad yr Alban.

“Dw i’n hynod falch o’r datganoli sydd gyda ni ar hyn o bryd wrth gwrs, yn enwedig y gallu i greu deddfau nawr,” meddai Emrys Roberts, a oedd yn aelod o’r Comisiwn diwethaf i drafod dyfodol Plaid Cymru, wedi methiant yr ymgyrch ‘Ie’ yn refferendwm 1979,

“Ond dw i’n credu bod gan yr SNP yn yr Alban wers i’w dysgu i ni yn y ffordd maen nhw wedi bod yn gwbl hyderus yn dweud wrth bobol eu gwlad beth yw eu nod terfynol fel plaid.

“Mae’n rhaid cofio mai proses yw cyrraedd y nod hwnnw, a rhaid dod â phobol gyda chi gam wrth gam. ‘Dewch gyda ni mor bell ag sydd yn bosib i chi’ yw’r neges, ond ein bod ni’n glir ein hunain o’r nod terfynol o annibyniaeth wrth gerdded y llwybr hwnnw.

“Gallwn ni ddim aros fel rydyn ni ar hyn o bryd, a gallwn ni fyth fodloni ar unrhyw fath o system ffederal. Er enghraifft ym maes gwleidyddiaeth dramor, mae gwahanol agwedd lwyr rhwng y Sais a’r Cymro a’n ffordd ni o drin pobol o wledydd eraill sy’n dangos ein bod yn wahanol.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffennaf