Mae o leiaf 35 o bobol wedi eu lladd gan fom ar ochor y ffordd yn Irac.

Cafodd y bom ei roi ar ochor llwybr y mae pererinion Mwslemiaid Shiite yn ei ddefnyddio i gyrraedd dinas sanctaidd Karbala y wlad.

Dywedodd awdurdodau’r wlad bod y ffrwydrad wedi anafu 130 o bobol.

Roedd y bomiau wedi eu gosod ger un o reolfeydd yr heddlu, tua 12 milltir y tu allan i Karbala, i’r de o Faghdad.