Mae Dave Jones wedi dweud ei fod yn gobeithio perswadio aelodau bwrdd Clwb Pêl-droed Caerdydd i gryfhau’r garfan ymhellach cyn ail hanner y tymor.

“Fe fyddai’n ceisio perswadio’r bwrdd i arwyddo cymaint o chwaraewyr ag sy’n bosib,” meddai. “Fe fydd angen ymgais mawr arall os ydan ni am sicrhau dyrchafiad.” 

Un chwaraewr sy’n debygol o ymuno gyda Chaerdydd yw amddiffynnwr Blackpool, Dekel Keinan. 

Mae’r chwaraewr ar ddeall ei fod yn mynd i arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i ymuno gyda’r Adar Glas. 

Ymunodd y gŵr o Israel gyda Blackpool dros yr haf ar ôl cael ei werthu gan Maccabi Haifa am £500,000.    

Fe fydd yr amddiffynnwr yn teithio i’r brifddinas er mwyn cwblhau profion meddygol cyn arwyddo’n swyddogol.

Jay Emmanuel-Thomas

Dywedodd Dave Jones ei fod yn falch iawn bod Caerdydd wedi arwyddo Jay Emmanuel-Thomas o Arsenal ar gytundeb benthyg tan ddiwedd y tymor. 

Fe ymunodd Jay Emmanuel-Thomas gyda’r Adar Glas ddoe ac mae’n gallu chwarae yng nghanol y cae neu yn safle’r ymosodwr. 

Mae wedi chwarae i dîm cyntaf Arsenal ar bedwar achlysur y tymor hwn. Treuliodd y Sais gyfnod ar fenthyg gyda Blackpool a Doncaster y tymor diwethaf. 

Mae’r chwaraewr ifanc hefyd wedi sgorio deg gôl mewn naw ymddangosiad i ail dîm Arsenal y tymor hwn. 

Dyma’r ail ymosodwr mae’r Adar Glas wedi arwyddo ers i’r ffenestr trosglwyddo agor ar ddechrau’r mis, ar ôl i Jon Parkin ymuno o Preston.

“R’yn ni wedi bod yn cadw llygad arno ares dechrau’r tymor. Roedd Arsenal am iddo fynd allan ar fenthyg i glwb arall yn yr Uwch Gynghrair. Felly roedd rhaid i ni aros am ein cyfle,” meddai Dave Jones. 

“Ond wedyn fe benderfynodd Arsene Wenger ei fod am i Jay ddod i Gaerdydd ac ry’n ni wrth ein bodd.

“Mae’n chwaraewr tebyg i Bothroyd ac ry’n ni’n edrych ymlaen at gael cydweithio gydag ef.”