Mae prif weithredwr y Gleision Peter Thomas wedi dweud bod y rhanbarth yn bwriadu cynnig cytundeb pedair blynedd newydd i Dai Young. 

Fe ddaw’r newyddion ar ôl i’r Gleision ddweud eu bod nhw am wneud toriadau o £750,000 i gyllid y rhanbarth ar gyfer tymor nesaf oherwydd methiannau ar y cae.  

Yn rhan o’r toriadau hynny, ni fydd y Gleision yn adnewyddu cytundebau Martyn Williams a Tom Shanklin ar gyfer y tymor nesaf. 

Fe ddywedodd Peter Thomas bod y toriadau’n ganlyniad i fethiant y Gleision i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Heineken eleni. 

Ond er gwaethaf siom yr ymgyrch Ewropeaidd, mae gan brif weithredwr y Gleision ffydd yng ngallu Dai Young i sicrhau llwyddiant. 

“Ry’ ni’n lwcus i gael Dai Young.  Rwyf eisoes wedi siarad gydag ef ynglŷn ag aros gyda’r clwb tan 2015,” meddai Peter Thomas wrth bapur y South Wales Echo. 

“Rwyf wedi dweud wrth Dai mae’r cam nesaf iddo fydd hyfforddi Cymru.  Mae Warren Gatland wedi dweud ei fod yn aros am bedair blynedd arall, felly dyma’r lle i Dai tan hynny.”

Mae’r prif weithredwr hefyd yn dweud nad yw carfan y Gleision yn cael ei wanhau oherwydd y toriadau wrth nodi na fydd cyllid y rhanbarth yn llai na’r hyn sydd gan Northampton a Chaerlŷr. 

“Fe fyddwn ni’n parhau i dalu arian mawr er bydd ‘na leihad mewn gwariant o ganlyniad i’n methiannau”

“Fe fydd y cyllid yn £4.4m tymor nesaf- yr un peth a Northampton a Chaerlŷr, ac maen nhw’n rownd wyth olaf y Cwpan Heineken”

“Os ydyn nhw’n gallu cystadlu yn y Cwpan Heineken gyda’r cyllid yna, fe allwn ni hefyd.”