Aberdaugleddau
Byddai preifateiddio Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau – y mwyaf o’i fath yng Nghymru – yn drychinebus i’r gymuned ac i Gymru gyfan.

Dyna ddywed arweinydd Cyngor Sir Benfro wrth i’r cyfnod ymgynghori ar gynlluniau Llywodraeth San Steffan ddod i ben.

Mae’r llywodraeth yn awyddus i godi biliynau o bunnoedd drwy werthu Awdurdodau Porthladdoedd Cymru a Lloegr.

Yn ôl arweinydd Cyngor Penfro ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, “mae difidend economaidd yr awdurdod porthladd yn ofnadwy o bwysig i’r gymuned – os caiff y porthladd ei breifateiddio byddai’r elw yn mynd allan o’r sir ac allan o Gymru ac i mewn i bocedi unigolion a chyfranddalwyr cwmnïau preifat.”

Ar hyn o bryd mae porthladdoedd fel Aberdaugleddau yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth sy’n talu ffordd drwy godi ffioedd ar bawb sy’n defnyddio’r porthladd. Ac mae bwrdd rheoli’r porthladd yn cynnwys tri aelod etholedig o Gyngor Penfro.

Mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau yn “gwneud elw clir £7.4 miliwn y flwyddyn”, meddai John Davies ac mae’r purfeydd olew a’r cwmnïau sy’n ynghlwm â’r porthladd yn cyflogi dros 3,000 o weithwyr, “does dim byd tebyg o ran gwaith yn y rhan yma o’r byd,” meddai.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffennaf