Mae cam cyntaf y gwaith adeiladu ar gartref newydd Pobol y Cwm ym Mae Caerdydd wedi ei orffen.

Dywedodd y BBC bod y llawr concrid a fydd yn dal y stiwdio newydd wedi ei gwblhau. Fe fydd seremoni heddiw i nodi’r achlysur.

Fe fydd y canolfan sydd yr un maint a tri chae rygbi hefyd yn cynhyrchu dramâu Doctor Who, Sarah Jane Adventures, a Casualty.

Ar hyn o bryd mae’r gorfforaeth yn cynhyrchu’r rhaglenni yn Llandaf, Caerdydd a Glan-bad ar gyrion Pontypridd.

Bydd yr episod cyntaf o Bobol y Cwm sydd wedi ei ffilmio yn y stiwdio newydd yn cael ei ddangos ym mis Hydref.