Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o “ddiogi” wrth hyrwyddo manteision y Gemau Olympaidd i fusnesau yng Nghymru.

Dywedodd Nick Bourne nad oedd y llywodraeth wedi gwneud digon i ysgogi cwmnïau i roi cynnig ar ennill cytundebau i wneud gwaith ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Dim ond 11 o’r cytundebau ar gyfer gwaith ar y Gemau Olympaidd sydd wedi mynd i gwmnïau o Gymru, allan o gyfanswm o 1,433.

Esgeuluso Cymru

Daw sylwadau Nick Bourne ar ôl i Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, gael gafael ar ffigyrau Awdurdod Cyflwyno’r Gemau Olympaidd.

“Dim ond gwerth £200m o gontractau sydd ar ôl, ac mae’n amlwg mai prin y mae sawl rhan  o’r Deyrnas Unedig wedi elwa o gwbl ar y Gemau Olympaidd,” meddai Hywel Williams.

“Mae’r honiad y bydd pawb ledled y Deyrnas Unedig yn elwa yn economaidd o’r buddsoddiad yn y Gemau Olympaidd yn amlwg yn anghywir.”

Bai ar y llywodraeth

Ond dywedodd Nick Bourne nad oedd y Prif Weinidog Carwyn Jones i weld yn poeni bod cyn lleied o fusnesau o Gymru wedi ennill cytundebau.

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod y ffigyrau yn siomedig. Ond mae’r ffigyrau yn waeth na siomedig, maen nhw’n annerbyniol,” meddai.

“Cyfaddefodd y Prif Weinidog na chafodd cytundebau’r Gemau Olympaidd hyd yn oed eu trafod yng nghyfarfod diwethaf Cyngor Adnewyddu’r Economi.

“Mae’n rhaid i ddiogi Llafur-Plaid ddod i ben. Mae’n rhaid i ni wneud rhagor i annog buddsoddiad yng Nghymru ac mae’n rhaid i ni wneud hynny cyn gynted â phosib.”