Mae ASau yn anhapus bod Llywodraeth San Steffan yn ceisio atal cynnydd 1% yn eu cyflogau.

Cadarnhaodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin,  Syr George Young, heddiw ei fod o eisiau cael gwared ar y codiad cyflog.

Mae yna bryder y byddai’n rhoi’r argraff anghywir ar ôl i’r llywodraeth benderfynu rhewi cyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus.

Dywedodd Stryd Downing ei bod hi’n bwysig fod pawb yn cymryd gofal wrth dalu cyflogau, wrth i’r ymdrech i dorri’r diffyg ariannol barhau.

Ond mae’r penderfyniad wedi cythruddo rhai ASau ar y meinciau cefn sy’n credu nad ydi £65,738 yn ddigon o gyflog am y gwaith y maen nhw’n ei wneud.

Mae nifer hefyd yn anhapus ynglŷn â’r rheolau newydd ar hawliau costau, gafodd eu creu yn dilyn y sgandal yn 2009.

Mynnodd y Ceidwadwyr Mark Field ei fod yn “wirion bost” bod Aelodau Seneddol yn ceisio atal penderfyniadau’r corff annibynnol sy’n gosod eu cyflogau nhw.

“Sut ydyn ni yn mynd i adennill ffydd y cyhoedd os ydyn ni’n penderfynu ar ein cyflogau ein hunain yn hytrach na chaniatáu i gorff annibynnol wneud y penderfyniad?” gofynnodd AS Dinas Llundain.

“Dyna holl bwynt cael arolwg annibynnol. Mae beth sy’n cael ei gynnig yn anhygoel o ffôl.

“Mae’n arolwg annibynnol ac fe ddylen ni adael iddyn nhw wneud y penderfyniad.”

“Pe bai’r corff annibynnol yn penderfynu y dylen ni gael toriad cyflog o 3% fe fydden i’n ddigon hapus.”