Llys y Goron Abertawe
Cyd-gynllwyniodd 13 o swyddogion llwgr er mwyn anfon pump o ddynion dieuog i’r carchar am lofruddio putain, clywodd rheithgor.

Cafodd tri o’r pum dioddefwr eu carcharu ar gam yn dilyn camwedd sy’n parhau i effeithio ar eu bywydau hyd heddiw.

Daethpwyd o hyd i gorff y butain Lynette White, 20 oed, ym mis Chwefror 1988 yn ardal y dociau, Caerdydd. Roedd hi wedi ei thrywanu mwy na 50 o weithiau.

Ond clywodd y rheithor nad oedd ditectifs wedi llwyddo i ddod o hyd i’w lladdwr ac wedi creu senario ffuglenol “oedd yn seiliedig yn bennaf ar eu dychymyg eu hunain”.

Dros ddau ddegawd ar ôl y llofruddiaeth dechreuodd yr achos llys mwyaf o’i fath yn hanes Ynysoedd Prydain yn Llys y Goron Abertawe.

Mae wyth o’r 13 swyddog gwreiddiol, pob un ohonyn nhw bellach wedi ymddeol, yn y doc ac mae disgwyl i’r achos llys barhau am hyd at saith mis.

Maen nhw i gyd wedi eu cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gytuno i “greu a dylanwadau ar y dystiolaeth”.

Gwyrdroi Cyfiawnder

Fe fydd tri cyn swyddog blaenllaw sydd bellach wedi ymddeol yn chwarae rhan bwysig yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe – y cyn brif uwch-arolygydd Thomas Page, a’r prif arolygywr  Graham Mouncher a Richard Powell.

Bydd pump cyn heddwas arall sydd bellach wedi ymddeol – Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood, a John Seaford – hefyd yn wynebu achos llys.

Mae’r wyth wedi eu cyhuddo ar y cyd o gynllwynio er mwyn gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae dau sifiliad, Violet Perriam ac Ian Massey, yn ogystal â Graham Mouncher, wedi eu cyhuddo o anudoniaeth.

Mae pedwar cyn heddwas arall wedi eu cyhuddo o gynllwynio a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mi fyddwn nhw’n wynebu achos llys ar wahân y flwyddyn nesaf.

Y ‘Cardiff Three’

Ar ddechrau’r achos llys dywedodd yr erlnydd Nicholas Dean QC wrth y rheithgor fod gweithredoedd y diffynyddion yn gyfrifol am anfon tri dyn dieuog i’r carchar.

Cafwyd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, y ‘Cardiff Three’, yn euog o lofruddio Lynette White yn 1990.

Wynebodd y cefndryd Ronnie a John Actie achos llys ond cafodd y ddau eu rhyddhau, ar ddiwedd ail achos llys oedd yn cynnwys y pum dyn.

Ond yn 1992 cafodd dedfrydau Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu diddymu gan y Llys Apêl.

Yn 2003 pleidiodd Jeffrey Gafoor yn euog i lofruddio Lynette White ac mae wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar.

Fe fuodd Yusef Abdullahi, 49 oed, farw yn gynharach eleni.