Lesley Griffiths
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi gwadu honiadau iddi feirniadu cyn weinidog iechyd ar twitter yn ystod dadl yn y siambr.

Roedd Bethan Jenkins ymysg nifer o Aelodau Cynulliad oedd yn holi’r Gweinidog Iechyd newydd, Lesley Griffiths, yn ystod y cyfarfod llawn ddoe.

Yn ystod y ddadl, trydarodd Bethan Jenkins fod “Lesley Griffiths yn chwa o awyr iach yn y Cabinet”.

Honnodd y gwleidydd 29 oed nad oedd y neges yn ymosodiad ar ragflaenydd Lesley Griffiths, Edwina Hart – sydd bellach yn weinidog busnes.

Mynnodd mai gwerthfawrogi oedd hi fod y Gweinidog Iechyd newydd wedi “ateb ei chwestiynau”.

“Dyw Edwina’r gweinidog busnes heb ateb fy nghwestiynau. Mae hynny’n ffaith. Ond doedd fy sylwadau am Lesley ddim yn glec i Edwina.”

Anghydraddoldeb

Cafodd Lesley Griffiths, AC Llafur Wrecsam, ei holi ar sawl pwnc, gan gynnwys diwygio tâl rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac anghydraddoldeb gwasanaethau iechyd gogledd a de Cymru.

“Yn dilyn yr ail-strwythuro yn ôl yn 2009, cafodd nifer y rheolwyr uwch ei leihau yn sylweddol,” meddai wrth ateb cwestiwn gan Leanne Wood.

“Mae eu cyflogau yn cael eu gosod gan gorff yn y sector gyhoeddus ac mae hyn yn rhywbeth yr ydw i’n ystyried edrych arno yn hwyrach ymlaen eleni.”

Cyfaddefodd fod gwasanaethau ffisiotherapi niwrogyhyrol gogledd Cymru ar ei hol hi i’r de.

“Fe fydd yn cymryd amser i’r gwasanaethau ddatblygu, ond mae yn rhywbeth yr ydyn ni yn ei ystyried,” meddai.

Dywedodd aelod y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin Clwyd, Darren Millar, fod y diffyg cydraddoldeb “yn rhywbeth sydd angen mynd i’r afael â fo”.