Lewis Clarke
Mae dyn 20 oed wedi ei gadw yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o lofruddio llanc ym Mhowys.

Siaradodd Blaine Daniel Kirkham, o’r Drenewydd, i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn Llys Ynadon Llandrindod heddiw.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Cafodd ei gyhuddo brynhawn ddoe o lofruddio Lewis Clarke, cyn-ddisgybl yn ysgol uwchradd y dref.

Fe fu’r llanc 18 oed, oedd hefyd o’r Drenewydd, farw yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad yn Nhŷ Pumlumon ar Stryd Long Bridge, Llanidloes, ddydd Sadwrn.

Dywedodd ei rieni ddoe eu bod nhw wedi torri eu calonnau ar ôl cael gwybod ei fod wedi marw.

“Rydym ni fel teulu yn llawn tristwch a galar o golli Lewis,” meddai ei fam, Gale Morris.

“Roedd yn fachgen hoffus a phoblogaidd oedd yn dwlu ar gerddoriaeth ac actio. Roedd yn disgwyl ymlaen at ymuno â’r Llynges ym mis Tachwedd. Roedd ei agwedd benderfynol tuag at fywyd yn rhyfeddol.”

“Rydym ni fel teulu wedi torri ein calonnau a’n tristau yn arw o golli ein Lewis ni,” meddai Sean Clarke, tad Lewis.

“Rydym yn amlwg wedi cael sioc a siom difrifol, ac rydym yn brwydro i ddod i delerau â’i farwolaeth.  Roedd yn annwyl iawn i nifer o bobl, ac roedd pob un ohonom yn falch iawn ohono.”