Mae rheolwr Wrecsam, Dean Saunders, wedi canmol ymroddiad ei dîm ar ôl iddynt guro Southport yn Haig Avenue.

Roedd gôl gan Andy Moran wedi 25 munud yn ddigon i sicrhau’r pwyntiau llawn i’r ymwelwyr a’u codi i safleoedd y gemau ail gyfle yn Uwch Gynghrair Blue Square. 

Dyma’r bedwaredd gêm yn olynol y mae Wrecsam wedi llwyddo i atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio a dydyn nhw heb golli gêm yn y gynghrair ers mis Hydref. 

“R’yn ni wedi sicrhau’r pwyntiau llawn, ond rwy’n credu y byddai’r fuddugoliaeth wedi gallu bod yn fwy,” meddai Dean Saunders.

“Fe wastraffon ni sawl cyfle. Fe fethodd Mangan gyfle yn yr hanner cyntaf ac fe gafodd Creighton, Blackburn a Mangan gyfle da yr un yn yr ail hanner.

“Bydd rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny yn yr ymarferion yr wythnos yma.

“Ond roedd yr ymdrech yn wych – mae’r tîm wedi dechrau dod at ei gilydd.”

Roedd Dean Saunders yn llawn canmoliaeth i Southport oedd wedi brwydro’n galed i geisio unioni’r sgôr.

“Fel arfer fe fydden i’n poeni bod pum munud o amser ychwanegol ar ôl ar ddiwedd y gêm. Ond roeddwn i’n weddol hapus fy myd y tro yma.

“Mae yna bethau y gallen ni eu gwneud yn well, ond mae’r chwaraewyr yn gwneud eu gorau. Os ydym ni eisiau ennill dyrchafiad, mae’n rhaid i ni ennill oddi cartref mewn llefydd fel Southport.”