Mae Bangor deg pwynt ar y blaen ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru o hyd ar ôl gêm gyfartal yn erbyn y Seintiau Newydd yn Park Hall. 

Roedd dechrau delfrydol i’r tîm cartref pan lwyddodd Richie Partridge i gyrraedd croesiad gan Craig Jones a sgorio gôl agoriadol y gêm ar ôl naw munud yn unig. 

Methodd Les Davies gyfle da i unioni’r sgôr i Fangor.  Er gwaethaf hynny, roedd Bangor yn ôl yn y gêm pan sgoriodd Alan Bull oddi ar groesiad Chris Jones wedi 27 munud. 

Ond deg munud yn ddiweddarach, roedd y Seintiau Newydd yn ôl ar y blaen wedi i Aeron Edwards daro’r bêl  i’r rhwyd yn dilyn arbediad gan gôl-geidwad Bangor, Paul Smith.

Fe aeth y Seintiau Newydd i lawr i ddeg dyn wedi deg munud o’r ail hanner ar ôl i Danny Holmes gael ei anfon o’r cae am atal Alan Bull rhag cymryd cyfle i sgorio. 

Tair munud yn ddiweddarach, roedd Bangor wedi unioni’r sgôr unwaith eto wrth i Alan Bull lwyddo gyda chic o’r smotyn ar ôl i Aeron Edwards droseddu yn ei erbyn yn y cwrt cosbi. 

Mae’r canlyniad yn hwb i obeithion Bangor o ennill Uwch Gynghrair Cymru eleni, ac mae’n rhoi pwysau mawr ar y Seintiau Newydd i ennill eu dwy gêm ychwanegol cyn i’r adran gael ei rannu’n ddwy fis nesaf. 

Castell-nedd 1-1 Llanelli

Doedd Castell-nedd na Llanelli wedi gallu manteisio ar y cyfle i gau’r bwlch ar y ddau dîm sydd ar frig y tabl ar ôl gêm gyfartal ar y Gnoll. 

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen â gôl gan Chris Venables ar ôl 22 munud. 

Sgoriodd Castell-nedd bedair munud cyn y diwedd â chic o’r smotyn gan Lee Trundle ar ôl i Wyn Thomas gael ei gosbi am wthio yn y cwrt cosbi.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Lanelli ym munudau olaf y gêm pan gafodd prif sgoriwr y clwb, Rhys Griffiths, ei anfon o’r cae ac fe fydd yn colli rownd derfynol Cwpan Cynghrair Loosemores yn erbyn y Seintiau Newydd ddydd Sul. 

Mae asgellwr Llanelli, Owain Warlow, hefyd yn wynebu gwrandawiad am ddefnyddio iaith anweddus. 

Prestatyn 0-0 Caerfyrddin

Mae Prestatyn wedi sicrhau eu lle ymysg chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru yn ail hanner y tymor ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn Caerfyrddin. 

Mae Caerfyrddin yn parhau’n obeithiol y bydd lle iddynt ymysg y chwech olaf, ond mae’n edrych yn annhebygol gan eu bod nhw pedwar pwynt ar ei hol hi i Bort Talbot, â dim ond dwy gêm yn weddill.