S4C
Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, wedi dweud na ddylai S4C ymddangos ar restr o gyrff y gallai gweinidogion eu dileu a’u newid heb drafod gyda San Steffan o flaen llaw.

Dywedodd ei fod yn sicr na fyddai’r llywodraeth bresennol yn cael gwared ar S4C – ond nad oedd unrhyw beth yn y Mesur Cyrff Cyhoeddus yn atal llywodraeth arall rhag gwneud hynny yn y dyfodol.

Fe fydd y mesur yn rhoi’r hawl i weinidogion ddileu neu newid cannoedd o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Channel 4, Ofcom, y Gofrestrfa Tri ac S4C.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw gofynnodd Mark Williams am sicrwydd gan weinidog Swyddfa’r Cabinet fod gan y sianel ddyfodol.

Pwysleisiodd Francis Maude na fyddai S4C yn cael ei ddiddymu er ei fod ar y rhestr.

“Mae’n beth da bod y Llywodraeth yn torri nôl ar nifer y cyrff cyhoeddus ac mae angen y ddeddfwriaeth yma arnyn nhw er mwyn gwneud hynny,” meddai Mark Williams.

“Ond dw i ddim yn credu y dylid cynnwys rhestr o gyrff allai gael eu diddymu yn hwyrach ymlaen heb drafod â San Steffan.

“Mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio ei fod yn ymroddedig i S4C, ond o ystyried rhai o’r trafferthion y mae’r sianel wedi ei wynebu, mae yn ddealladwy fod bryder ynglŷn â chynnwys y sianel ar y rhestr.

“Does yna ddim awgrym y bydd y Llywodraeth yma yn diddymu S4C, ond petai’r Mesur yn cael sêl bendith y Senedd fe allai llywodraeth arall gael gwared a’r sianel yn y dyfodol heb orfod cyflwyno deddfwriaeth.

“Rydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ailfeddwl er mwyn sicrhau bod dyfodol S4C yn saff.”