Mae partner Fianna Fáil yn y glymblaid yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi dweud heddiw y bydd rhaid cynnal Etholiad Cyffredinol cyn diwedd mis Mawrth.

Ar ôl trafodaethau â’r Taoiseach, Brian Cowen, dywedodd John Gormley ei fod eisiau i’r wlad bleidleisio mor gynnar a bo modd.

“Mae angen etholiad arnom ni ym mis Mawrth, does dim dewis arall, ac fe fyddai gadael iddo lithro y tu hwnt i fis Ebrill yn annerbyniol,” meddai.

Mae 25 Mawrth yn ddyddiad posib, yn ôl adroddiadau yn y wasg Wyddelig.

Roedd y ddau arweinydd wedi cyfarfod am fwy nag awr a hanner heddiw er mwyn trafod amserlen ar gyfer yr etholiad a deddfwriaeth hanfodol.

Dywedodd John Gormley y byddai’r Mesur Cyllidol, a fydd yn rhoi grym i gyllideb dadleuol y llywodraeth, yn ddeddf erbyn diwedd mis Chwefror.

Yn gynharach cadarnhaodd Brian Cowen y byddai’n cymryd rheolaeth o’r adran Materion Tramor ar ôl i’r gweinidog Micheal Martin, oedd wedi herio ei arweinyddiaeth, ymddiswyddo.

Etholiad

Dywedodd un o aelodau’r Blaid Werdd, Dan Boyle, nad oedd y blaid yn ofni y byddai’r etholwyr yn eu cosbi nhw pan ddaw’r etholiad.

“Beth sy’n bwysig ydi gwneud y peth cywir, nid gwneud beth sy’n boblogaidd,” meddai wrth radio RTE.