Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych.

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a’r iaith Gymraeg.

Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i’r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu’r cynllun fyddai’n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.

Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i’r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr.

Yn ôl asesiad y cyngor bydd y datblygiad yn cael ambell i effaith negyddol ar y gymuned, ond y byddai yna sawl effaith cadarnhaol hefyd.

Maen nhw’n argymell adeiladu ysgol gynradd iaith Gymraeg yn y pentref, sy’n cynnwys tua 900 o dai ar hyn o bryd, os yw’r datblygiad yn mynd rhagddo.

Ond dywedodd Llŷr Huws Gruffydd, un o ymgeiswyr Plaid Cymru dros ranbarth gogledd Cymru yn Etholiadau’r Cynulliad, ei fod yn feirniadol o asesiad y cyngor a bod ganddo gefnogaeth yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans.

Mae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi dweud mai “gwneud elw ydy prif fwriad y cwmni Americanaidd sydd eisiau adeiladu’r tai ym Modelwyddan”.

Asesiad

“Er fy mod yn croesawu penderfyniad y cyngor i gynnal asesiad o’r fath, yn fy marn i, mae yna nifer o gwestiynau am gynnwys a methodoleg yr adroddiad ddrafft,” meddai Llŷr Huws Gruffydd.

“Nid oes yno ystadegau i’w gefnogi, a dydi o ddim yn dangos fawr ddim tystiolaeth o gyfraniad arbenigol mewn meysydd polisi iaith a meysydd eraill.

“Er enghraifft, mae un cwestiwn yn gofyn a fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd mewn trosedd ym Modelwyddan.

“Mae’n dweud fod lefelau trosedd presennol yn arferol ar gyfer y gogledd, a daw wedyn i’r casgliad ‘nad oes rheswm pam y dylai hyn newid’.

“Does dim archwiliad cymharol nac ystadegol o effeithiau mwy o drefoli, maint cymunedau nac effeithiau mewnfudo sydyn ar dueddiadau trosedd. Nid yw’r ateb  chwaith yn cyfeirio at unrhyw gynllun plismona.

“Mae’r ymatebion di-sail – rhagfarnllyd, hyd yn oed – i’w gweld drwy gydol yr adroddiad. Dylid eu herio pan gyhoeddir y fersiwn derfynol – a all fod yn wahanol i’r drafft – ar 26 Ionawr.”

Codi cwestiynau

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, hefyd wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r cynigion a’r broses a ddilynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

“Mae’r gymuned yn gwrthwynebu’r penderfyniad ei hun a’r broses ddirgel o’i gymryd,” meddai.  

“Ni wnaed adroddiad y llywodraeth yn agored i’r cyhoedd fel bod modd ei wirio, ac nid yw’r penderfyniad yn destun apêl.”

‘Gwneud elw’

Dywedodd Glyn Jones o Gymdeithas yr Iaith mai “gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan, nid gwasanaethu’r gymuned”.

“Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn. Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol,”  meddai Glyn Jones.

Ychwanegodd ei fod yn “drueni na ddaeth dim un o swyddogion y cyngor draw i’r cyfarfod” i glywed barn y cyhoedd.

“Mae angen diddymu’r cynllun isranbarthol rhwng swydd Caer a’r Gogledd Ddwyrain a newid y gyfraith fel bod y system gynllunio yn rhoi pobl yn gyntaf.”