Mae awdurdodau Awstralia wedi cynghori rhai o bobl de-ddwyrain y wlad i ffoi o’u cartrefi wrth i afon yn nhalaith Fictoria fygwth torri ei glannau.

Gallai 1,500 o dai gael eu heffeithio yn nhref wledig Kerang, yng ngogledd talaith Fictoria, petai Afon Lodden yn gorlifo.

Mae yna eisoes llifogydd mawr yng ngogledd a gorllewin y dalaith ar ôl glaw trwm dros yr wythnos ddiwethaf.

Daw’r rhybudd llifogydd diweddaraf wrth i dalaith Queensland barhau i ymdopi â llifogydd sydd wedi boddi 60% o’r tir a gadael o leiaf 30 o bobol yn farw.

Dioddefwyr

Un o’r rhai a gafodd ei ladd yn Queensland oedd Jordan Rice, 13 oed, a fu farw ar ôl mynnu bod achubwyr yn mynd a’i frawd iau i dir diogel cyn dod yn ôl i’w achub ef.

Cafodd ei fam ei lladd hefyd ar ôl i gar y teulu gael ei ddal gan lifogydd cyflym.

Economi

Y gred yw y gallai’r gost i Awstralia gyfan fod mor uchel â £3.2 biliwn – ac roedd hynny cyn i’r dŵr foddi rhannau o Brisbane yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r llifogydd yn Awstralia eisoes wedi costio £1.5 biliwn i’r diwydiant glo yno. Mae awdurdodau Queensland eisoes wedi rhoi caniatâd i sawl un o’r pyllau glo ddechrau pwmpio dŵr yn ôl i’r wyneb, gan ychwanegu at y llifogydd.

Mae Gweinidog Tramor Prydain, William Hague, yn Awstralia yn cynnal trafodaethau gweinidogol ar hyn o bryd, ac fe ddywedodd bod pobol Prydain yn cydymdeimlo â nhw.

“Mae pobl Prydain wedi bod yn gwylio’n astud ac yn gweddïo dros bobol Awstralia,” meddai.