Mae rheolwr Stoke City, Tony Pulis, wedi dweud fod ganddo ffydd y bydd ei dîm yn sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Caerdydd heno.

Mae Pulis, sy’n wreiddiol o Gasnewydd, hefyd yn disgwyl “awyrgylch arbennig” y tu fewn i Stadiwm Dinas Caerdydd pan fydd ei dîm yn wynebu’r Adar Glas.

Fe fydd y gêm yn fyw ar S4C heno am 7.30pm.

“Fe fydd yna awyrgylch arbennig o fewn y stadiwm – fe fydd y lle’n fwrlwm,” meddai Pulis.

Fe fydd Caerdydd yn herio Stoke City yng ngêm ail gyfle trydedd rownd Cwpan yr FA heno ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Britannia dros wythnos ‘nôl. 

Dywedodd rheolwr Stoke City ei fod yn siomedig nad oedd ei dîm wedi gallu sicrhau’r fuddugoliaeth ar y cynnig cyntaf.

“Doedd y tîm ddim ar eu gorau yn y gêm gyntaf. Cafwyd sawl cyfle ond wnaethon nhw ddim achosi nifer o broblemau ar ôl iddynt sgorio.

“R’yn ni nawr yn wynebu gêm anodd am eu bod nhw’n siŵr o weld cyfle a chwarae tîm cryf.

“Mae Caerdydd yn dîm da ac fe fyddwn nhw’n credu eu bod nhw’n gallu ein curo ni, ond mae gen i ffydd y bydd ein tîm ni’n fuddugol.”

Newidiadau

Mae Tony Pulis wedi dweud ei fod o am roi cyfle i sawl chwaraewr sydd ddim fel arfer yn y tîm cyntaf.

“Fydda’i byth yn anfon tîm allan ar y cae gan feddwl eu bod nhw’n mynd i golli. Mae Cwpan yr FA yn bwysig i ni ond fe fydd yna newidiadau.

“Mae gennym ni garfan dda o chwaraewyr ac mae yna sawl un sy’n awyddus i ddangos eu doniau.”