Mae’r heddlu yn Sbaen wedi arestio deg o bobl sydd â chysylltiadau honedig grŵp Basgaidd arfog ETA, meddai’r Gweinidog Mewnol heddiw.

Yn ôl swyddogion, bu’r heddlu wrthi’n arestio pobl yn gynnar iawn y bore ’ma yn rhanbarth gogleddol Navarra, gerllaw ardal y Basg.

Y gred yw bod y deg yn aelodau o grwpiau dinesig Ekin a’r Askatasuna. Mae’r ddau yn cael eu hystyried yn gefnogol i ETA.  

Daw’r arestiadau diweddaraf ychydig dros wythnos ar ôl i ETA gyhoeddi eu bod nhw’n ymrwymo i  gadoediad parhaol.

Mae llywodraeth Sbaen wedi mynnu bod rhai i ETA chwalu ac ildio’u harfau cyn y bydd heddlu’r wlad yn ystyried rhoi’r gorau i gadw llygad ar y grŵp a’i aelodau. 

Mae ETA wedi lladd mwy na 825 o bobl ers 1960 pan ddechreuodd eu hymgyrch am annibyniaeth i’r dalaith Basgaidd.