S4C
Mae’r gweinidog Diwylliant wedi cyfaddef mai dim ond ewyllys da’r BBC sy’n eu hatal nhw rhag lleihau faint o arian y bydd S4C yn ei dderbyn ar ôl 2015.

Roedd yr Aelod Seneddol Ed Vaizey yn rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan heddiw.

Fe fydd y BBC yn cymryd rhan o’r baich dros ariannu S4C o 2013 ymlaen, a bydd rhaid i’r BBC roi tua £70m o arian y drwydded deledu i S4C bob blwyddyn. Ond tu hwnt i 2015 does dim sicrwydd faint o arian fydd S4C yn ei gael.

“Mae’r BBC yn annhebygol iawn o dorri cyllideb S4C,” meddai Ed Vaizey.   “Rydw i’n teimlo eich bod chi’n edrych ar yr ochor dywyll braidd.

“Wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor yma fe wnaeth Mark Thompson bwysleisio bod y BBC yn ymroddedig i S4C.”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Guto Bebb ei fod yn pryderu nad oedd unrhyw sicrwydd i S4C tu hwnt i 2015, dim ond “ewyllys da ar bob ochor”.

Ymgynghori

Dywedodd ei fod o wedi ymgynghori ag Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yn ogystal â’r Aelodau Seneddol Guto Bebb ac Alun Cairns cyn cymryd penderfyniad ynglŷn â dyfodol S4C.

Ychwanegodd nad oedd wedi trafod ag arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, er bod hwnnw wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd gydag arweinwyr eraill y prif bleidiau yng Nghymru yn galw am adolygiad i S4C.

Cyhoeddodd  Ed Vaizey y byddai Cadeirydd newydd ar gyfer Awdurdod S4C yn cael ei gyfweld ddechrau mis Mawrth ac yn cael ei benodi’n fuan wedyn. Roedden nhw’n edrych am “arweinydd cryf” meddai.

S4C

Amddiffynnodd Ed Vaizey y ffaith nad oedd yr Adran Diwylliant wedi rhoi gwybod i S4C ynglŷn â’r penderfyniad ynglŷn â chyllideb y sianel hyd nes y cyhoeddiad ym mis Hydref.

“Doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’r toriadau tan i ni gael setliad gan y Trysorlys,” meddai Ed Vaizey.

“Mae hi braidd yn anghredadwy honni nad oedd S4C yn gwybod bod cyllideb y sianel yn mynd i gael ei leihau.”

“Fe fyddai wedi bod yn rhyfedd iawn petai gyllideb S4C wedi parhau i gynyddu ar ôl toriadau i bob adran arall”.

Ond mynnodd bod gan S4C ddigon o gyllideb ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag arbedion, ac felly ei fod “mewn cyflwr ariannol cryf iawn”.