Fe allai Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol golli pob un o’u seddi yn San Steffan os yw’r refferendwm ar newid y sustem bleidleisio yn mynd yn ei flaen, yn ôl arbenigwr.

Yn ôl Dr John Cox fe fydd y tri AS sydd gan Blaid Cymru yn ei chael hi’n anodd cael eu hailethol yn 2015 os ydi cynllun Llywodreath San Steffan i newid ffiniau etholaethau a newid y sustem bleidleisio yn mynd rhagddo.

Fe allai’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd golli eu seddi yng Nghymru, er mai nhw sydd wedi gwthio am y refferendwm yn y lle cyntaf, meddai.

Mae mesur yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd fyddai’n arwain at gynnal refferendwm ar newid y sustem bleidleisio ar 5 Mai, a hefyd torri nifer yr ASau ym Mhrydain o 650 i tua 600.

Fe fyddai hefyd yn golygu bod nifer yr ASau yng Nghymru yn lleihau o 40 i tua 30.

Dywedodd John Cox, sy’n arbenigwr ar sustemau etholiadol, bod system y bleidlais amgen yn tueddu i ffafrio’r pleidiau mawr.

Dan y system mae angen cefnogaeth o leiaf 50% yr etholaeth ar bawb – ac mae hynny’n anfanteisiol pleidiau bychain, sydd â cefnogaeth brwd lleiafrif yr etholaeth ond dim cefnogaeth tu hwnt i hynny.

“Fe fyddai defnyddio system y bleidlais amgen mewn etholaethau sydd â dros 75,000 o etholwyr yn golygu ei bod hi’n bosib na fyddai Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill yr un sedd yng Nghymru,” meddai yn y cylchgrawn Agenda.