Fe fydd capten Lloegr, Lewis Moody, yn absennol o gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad â anaf i’w ben-glin.

Fe gafodd Moody ei anafu wrth chwarae dros ei glwb Caerfaddon yn y Cwpan Heineken yn erbyn Aironi ddydd Sadwrn diwethaf. 

Mae Caerfaddon yn disgwyl iddo fod allan am hyd tua chwe wythnos, sy’n golygu na fydd ar gael er mwyn herio’r Eidal a Ffrainc chwaith. 

Mae hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson eisoes wedi colli’r clo Courtney Lawes a’r blaenasgellwr Tom Croft.

Fe fydd rhaid i Johnson benodi capten newydd ar gyfer y gemau agoriadol. Y canolwr Mike Tindall neu’r wythwr, Nick Easter, sydd fwyaf tebygol.